Llefydd i fwyta
Bryn Noddfa
Mae'r bwyty ym Mryn Noddfa yn gweini bwyd cartref lleol, gyda'r fwydlen yn cael ei chadw'n fwriadol fyr ac yn cael ei ddiweddaru'n aml felly mae yna bob amser rywbeth ffres a gwahanol i roi cynnig arno.
Castell Deudraeth
Yng Nghastell Deudraeth, gallwch fod yn siŵr o awyrgylch clyd, cyfeillgar ynghyd â gwasanaeth heb ei ail, a phrydau sy’n syml ond eto’n ddigon o sioe ar eich plât.
Gwesty Plas y Goedlan
Mae Gwesty Plas y Goedlan wedi'i leoli mewn 7 erw o'i thiroedd ei hun. Mae bar a bwyty'r gwesty ar agor i drigolion a rhai nad ydynt yn drigolion, gan ddarparu bwydlen helaeth yn ogystal â byrbrydau, prydau bar a seler gwin â stoc dda.
Hotel Portmeirion
Mae'r Bwyty Art Deco arobryn yn prysur wneud enw da am ei arlwy arloesol uchelgeisiol. Dewch i fwynhau Cinio neu De Prynhawn ar y Teras neu i gael blas ar y fwydlen table d'Hote gyda'r nos.