Llefydd i fwyta
Caffi’r Tyddyn
Caffi wedi'i leoli o fewn Canolfan Arddio Tyddyn Sachau, yn cynnig bwydlen fforddiadwy, iachus yn seiliedig ar fwyd cartref a chynnyrch ffres, lleol. Ceir golygfeydd godidog o Eryri, Moel Hebog a'r morlin mor bell â Phorthmadog a'r Bermo.
Caffi Corris
Mae bwydlen trwy'r dydd Caffi Corris yn gyfuniad croesawgar o'r cynhwysion Cymreig gorau, ryseitiau lleol a seigiau blasus.
Cegin Ceri
Caffi, Deli a Siop yn gwerthu cynnyrch ffres lleol. Mae croeso i seiclwyr, gydag ardal storio ddiogel, gorsaf waith proffesiynol a phwmp aer.
Pant Du - Tŷ Bwyta & Bar
Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt.
Tafarn y Garddfôn
Wedi'i lleoli ym mhentref Y Felinheli ar lannau hardd yr Afon Menai, mae Tafarn y Garddfôn yn enghraifft wŷch o dafarn gymunedol draddodiadol Gymreig.
The Swellies
Mae’r Swellies yn gaffi bach prysur sydd yn defnyddio cynhwysion lleol i gyd-fynd gyda’r fwydlen wladaidd.