Tafarn y Garddfôn
Wedi'i lleoli ym mhentref Y Felinheli ar lannau hardd yr Afon Menai, mae Tafarn y Garddfôn yn enghraifft wŷch o dafarn gymunedol draddodiadol Gymreig. Gan gyfuno croeso cynnes tafarn leol gyda bwyd blasus a gwasanaeth rhagorol, mae'r dafarn hanesyddol hon wedi bod yn croesawu cwsmeriaid ers dros 200 mlynedd. Mae'r awyrgylch wŷch yn cael pobl i ddychwelyd dro ar ôl tro. Gellir mwynhau cwrw go iawn a gwinoedd yn y bistro lle mae digonedd o fwyd o ansawdd rhagorol heb roi straen ar y pwrs. Mwynhewch dreulio amser yn y dafarn deuluol hon, profwch yr awyrgylch leol a morwrol, ac astudiwch yr hen ffotograffau a'r creiriau morwrol.