Llefydd i fwyta
Castell Deudraeth
Yng Nghastell Deudraeth, gallwch fod yn siŵr o awyrgylch clyd, cyfeillgar ynghyd â gwasanaeth heb ei ail, a phrydau sy’n syml ond eto’n ddigon o sioe ar eich plât.
Cegin Ceri
Caffi, Deli a Siop yn gwerthu cynnyrch ffres lleol. Mae croeso i seiclwyr, gydag ardal storio ddiogel, gorsaf waith proffesiynol a phwmp aer.
Hotel Portmeirion
Mae'r Bwyty Art Deco arobryn yn prysur wneud enw da am ei arlwy arloesol uchelgeisiol. Dewch i fwynhau Cinio neu De Prynhawn ar y Teras neu i gael blas ar y fwydlen table d'Hote gyda'r nos.
Pant Du - Tŷ Bwyta & Bar
Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt.
Peniarth Arms
Mae gan y Peniarth Arms llawer i'w gynnig, gan gynnwys ardal bwyta, bar, gardd gwrw a llety.
Bryncrug, Tywyn, Gwynedd, LL36 9PH