Llefydd i fwyta
Cegin Ceri
Caffi, Deli a Siop yn gwerthu cynnyrch ffres lleol. Mae croeso i seiclwyr, gydag ardal storio ddiogel, gorsaf waith proffesiynol a phwmp aer.
Pant Du - Tŷ Bwyta & Bar
Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt.
Y Sgwâr
Wedi'i leoli yn sgwâr marchnad hyfryd Tremadog, gyda golygfa o'r cefndir mynyddig hardd, mae Y Sgwâr wedi datblygu enw da am fwyd rhagorol, gwasanaeth cyfeillgar, sylwgar a chroesawgar ac awyrgylch bwyta perffaith.
Tafarn y Garddfôn
Wedi'i lleoli ym mhentref Y Felinheli ar lannau hardd yr Afon Menai, mae Tafarn y Garddfôn yn enghraifft wŷch o dafarn gymunedol draddodiadol Gymreig.
The Swellies
Mae’r Swellies yn gaffi bach prysur sydd yn defnyddio cynhwysion lleol i gyd-fynd gyda’r fwydlen wladaidd.