Llefydd i fwyta
Caffi Cabin
Os ydych yn chwilio am wasanaeth gyda gwên, awyrgylch cyfeillgar, bwyd cartref, Caffi Cabin yw’r lle i ymlacio ym Mhwllheli. Croeso cynnes i bawb. Dyfarnwyd caffi thema'r flwyddyn yn 2016.
Y Gwynedd Bar & Diner
Mae'r Gwynedd Bar & Diner yn Llanberis yn ddim ond 5 munud o gerdded i Reilffordd yr Wyddfa ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o atyniadau lleol.
Mixopoly at the Cricket Club
Wrth edrych allan ar olygfeydd hyfryd Eryri, mae Mixopoly at the Cricket Club yn fwyty newydd sy’n arbenigo mewn brunch di-waelod, te prynhawn, cinio Sul, platiau bach fin nos a choctêls, a hefyd yn darparu ar gyfer digwyddiadau preifat.
Pant Du - Tŷ Bwyta & Bar
Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt.
Sospan Fach
Bwyd cartrefol, da. Caiff yr holl gynnyrch cig ei gyflenwi gan T. J. Roberts, cigydd lleol. Ceir prydau wyau yn defnyddio wyau Cae Pant, te prynhawn cartref a chwrw Wrecsam ar dap. Croeso Cynnes!
97, Y Stryd Fawr, Bala, Gwynedd, LL23 7AE