Llefydd i fwyta
Cadwaladers Porthmadog
Mae hufen iâ Cadwaladers wedi dod yn rhan fawr o'r diwylliant yn lleol ac mae eu henw da wedi lledaenu ymhell ac agos. Mae hufen iâ fanila enwog Cadwaladers ar gael bob amser yn ogystal â dewis eang o flasau hufen iâ eraill.
Davy Jones Locker
Mae caffi Davy Jones Locker wedi ei leoli mewn un o adeiladau hynaf Abermaw, yn dyddio yn ôl i'r 15ed Ganrif. Mae'n sefyll ar harbwr del Abermaw, gyda golgfeydd godidog o Gader Idris dros yr aber.
Y Cei, Abermaw, Gwynedd, LL42 1ET
Garreg Ddu
Siop frechdanau ym Mhorthmadog sy'n gweini brechdanau ffres, cacennau cartref a choffi gwych.
4 Stryd y Banc, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9AA
Promenade Café
Caffi traddodiadol ar lan y môr yn Abermaw.
Promenâd Abermaw, Abermaw, Gwynedd, LL42 1BX
Russell Tea Room
Mae'r ystafell de ar agor bob dydd tan ddiwedd mis Hydref, ond does dim rhaid i chi fod yn teithio ar y trên i alw i mewn.
Siop Goffi Goodies
Siop goffi sy'n cael ei rhedeg gan ddwy chwaer lleol, yn gwneud cacennau cartref hyfryd, wedi ei leoli yn Abermaw, ar y brif stryd.
33 Stryd Fawr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1DW