Llefydd i fwyta
Blue Sky Café
Mae Blue Sky yn gaffi hynod sydd wedi'i leoli ychydig oddi ar Stryd Fawr brysur Bangor. Mae pensaernïaeth fewnol syfrdanol a bwydlen liwgar yn cyfuno i greu'r lleoliad delfrydol ar gyfer mwynhau bwyd a diod.
Davy Jones Locker
Mae caffi Davy Jones Locker wedi ei leoli mewn un o adeiladau hynaf Abermaw, yn dyddio yn ôl i'r 15ed Ganrif. Mae'n sefyll ar harbwr del Abermaw, gyda golgfeydd godidog o Gader Idris dros yr aber.
Y Cei, Abermaw, Gwynedd, LL42 1ET
Domů
Tŷ coffi annibynnol, teuluol, sy'n gweini bwyd llysieuol a fegan yn unig, bwyd ffres, blasus a ffres gyda blas o'r Wcrain. Mae bara, cawliau a chacennau yn cael eu gwneud yn ffres bob bore.
Tŷ Golchi
Mewn lleoliad perffaith rhwng Bangor a Chaernarfon, llai na dau funud o’r A55, a gyda digonedd o lefydd parcio, mae Tŷ Golchi yn lle delfrydol i gyfarfod, bwyta, yfed ac ymlacio.
Kyffin Café Deli
Caffi llysieuol a fegan cyntaf Bangor, a sefydlwyd yn 2005. Mae bwyd ffres yn cael ei wneud ar y safle bob dydd o fwydlen bwyd y byd, gyda phum dewis o brif bryd bob dydd, ar gyfer apêl ffres sy'n newid yn gyson.
Mike's Bites
Caffi wedi'i leoli ar Ffordd Caergybi ym Mangor Uchaf, yn gweini brecwastau, bwyd cyflym, coffi a brechdanau.
18 Ffordd Caergybi, Bangor, Gwynedd, LL57 2EG