Llefydd i fwyta
Caffi Cabin
Os ydych yn chwilio am wasanaeth gyda gwên, awyrgylch cyfeillgar, bwyd cartref, Caffi Cabin yw’r lle i ymlacio ym Mhwllheli. Croeso cynnes i bawb. Dyfarnwyd caffi thema'r flwyddyn yn 2016.
Castell Deudraeth
Yng Nghastell Deudraeth, gallwch fod yn siŵr o awyrgylch clyd, cyfeillgar ynghyd â gwasanaeth heb ei ail, a phrydau sy’n syml ond eto’n ddigon o sioe ar eich plât.
Castle Bistro
Mae Castle Bistro yn cynnig bwyd cyfoes modern gyda thema Cymreig mewn lleoliad cyfforddus a chroesawgar.
Coast Deli and Dining
Mae Coast Deli and Dining yn cynnig y gorau o fwyd a diod o Gymru, wedi'i gynhyrchu'n lleol a'i baratoi'n syml, gydag angerdd.
Cross Foxes
Mae'r Cross Foxes wedi'i leoli mewn lleoliad eithriadol, yn swatio wrth droed Cader Idris a dim ond 4 milltir o aber ysblennydd yr Afon Mawddach a thref hanesyddol Dolgellau.
Y Cwrt
Bar gwin a bwyty o safon wedi'i leoli ar y stryd fawr yn nhref darluniadol y Bala. Llys hardd, mawreddog wedi'i adfer yn chwaethus i fod yn fwyty a bar gwin cain.