Llefydd i fwyta
Glyn y Weddw Arms Tŷ Du
Mae Tafarn y Glyn-y Weddw Tŷ Du yn Llanbedrog ar agor 7 diwrnod yr wythnos am ddiodydd a bwyd ac yn cynnig croeso cynnes a chyfeillgar i gwsmeriaid, ac awyrgylch braf i fwynhau'r prydau bwyd blasus.
Y Glyntwrog
Tafarn lleol, cyfeillgar mewn pentref yng nghanol y wlad, yn cynnig amrywiaeth eang o gwrw, gwin, coctêls a diodydd ysgafn. Yn gweini bwyd cartref o sylwedd, yn defnyddio cynnyrch lleol, ffres.
Llanrug, Gwynedd, LL55 4AN
Golden Fleece
O'r bar ogof unigryw (y seler cwrw yn wreiddiol) rydym yn cynnig amrywiaeth o gwrw go iawn, chwerw, gwinoedd a gwirodydd. Rydym hefyd yn stocio rhestr gynhwysfawr o jin yn ogystal â chwisgi.
Gwesty Minffordd
Mae Gwesty Minffordd Hotel yn llawer mwy na gwesty yn Eryri, yn hytrach mae'n encil hudolus gyda bwyty da a bar clyd yn gweini ystod dda o winoedd a chwrw lleol traddodiadol.