Glyn y Weddw Arms Tŷ Du
Mae Tafarn y Glyn-y Weddw Tŷ Du yn Llanbedrog ar agor 7 diwrnod yr wythnos am ddiodydd a bwyd ac yn cynnig croeso cynnes a chyfeillgar i gwsmeriaid, ac awyrgylch braf i fwynhau'r prydau bwyd blasus. Y Glyn y Weddw Arms Tŷ Du yw'r dafarn deuluol ddelfrydol, lle mae plant yn gallu chwarae'n ddiogel yn y mannau chwarae caeëdig tra bod rhieni'n ymlacio ar y patio, sydd wedi'i orchuddio a'i gynhesu. Mae croeso i gŵn yn y man eistedd awyr agored hefyd.