Llefydd i fwyta
Bwyty Blondin
Mae Bwyty Blondin wedi'i leoli yn Zip World Chwarel Penrhyn ym Methesda. Mae'n lleoliad modern, ar ffurf bistro, yn cynnig cynnyrch lleol.
Clio Lounge
Wedi'i leoli yng nghanol Bangor, mae Clio Lounge yn lle cartrefol, yn cynnig bwyd a diodydd blasus trwy'r dydd. Mae ganddyn nhw hefyd eu hopsiynau bwydlen fegan a di-glwten eu hunain.
Tŷ Golchi
Mewn lleoliad perffaith rhwng Bangor a Chaernarfon, llai na dau funud o’r A55, a gyda digonedd o lefydd parcio, mae Tŷ Golchi yn lle delfrydol i gyfarfod, bwyta, yfed ac ymlacio.
Y Gwynedd Bar & Diner
Mae'r Gwynedd Bar & Diner yn Llanberis yn ddim ond 5 munud o gerdded i Reilffordd yr Wyddfa ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o atyniadau lleol.
Kyffin Café Deli
Caffi llysieuol a fegan cyntaf Bangor, a sefydlwyd yn 2005. Mae bwyd ffres yn cael ei wneud ar y safle bob dydd o fwydlen bwyd y byd, gyda phum dewis o brif bryd bob dydd, ar gyfer apêl ffres sy'n newid yn gyson.
Mixopoly at the Cricket Club
Wrth edrych allan ar olygfeydd hyfryd Eryri, mae Mixopoly at the Cricket Club yn fwyty newydd sy’n arbenigo mewn brunch di-waelod, te prynhawn, cinio Sul, platiau bach fin nos a choctêls, a hefyd yn darparu ar gyfer digwyddiadau preifat.