Llefydd i fwyta
Bron Eifion Hotel
Mae Bwyty Gardd Bron Eifion yn darparu rhywbeth at ddant pawb, p'un ai ydych yn chwilio am bryd bwyd 3 cwrs llawn, swper ysgafn, pryd rhamantus i 2, dathliad gyda ffrindiau neu noson hamddenol gyda bwyd a diod da.
Y Llechan | The Slate
Yn aml nid yn unig awyrgylch, addurn a naws gyffredinol bwyty sy'n gwneud noson allan gwych ond hefyd ansawdd y staff, natur gwrtais a chymwynasgar ac yn bendant ansawdd y bwyd, digonedd o ddewis ac wrth gwrs ei gyflwyniad.
Pant Du - Tŷ Bwyta & Bar
Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt.
The Gunroom Restaurant
Croeso i brofiad bwyta mwyaf gwych a ffasiynol Caernarfon – Bwyty Gunroom yn nhŷ gwledig Plas Dinas.