Llefydd i fwyta
Caffi Blas Y Waun
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Y Castell
Mae Gwesty Y Castell ar y sgwâr yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon. Mwynhewch olygfeydd o Gastell Caernarfon wrth gael coffi, diod neu ginio ysgafn. Mae llawer o atyniadau twristaidd Caernarfon ond tafliad carreg i ffwrdd.
Te a Cofi
Mae Te a Cofi yn gaffi sydd ar agor i’r cyhoedd ac ar yr un pryd yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc yn y maes arlwyo.
Gwesty'r Celt
Prydau cyfoes sy'n cael eu creu gan ddefnyddio cynhwysion ffres, Cymreig lle bynnag y bo modd - mae bwyta yng Ngwesty'r Celtic Royal bob amser yn brofiad hamddenol ond gwerth chweil.
Ouzo ac Olewydd
Bwyty meze Groegaidd sy'n gwasanaethu amrywiaeth o brydau bach sy'n berffaith i'w rhannu gyda theulu a ffrindiau.
14 Twll yn y Wal, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RF
Tafarn y Bachgen Du
Dyfarnwyd Gwobr Efydd Croeso Cymru i'r bwyty enwog yn Nhafarn y Bachgen Du ac mae yna ddewislen bwyd ar gyfer pob blas.