Atyniadau
Cadeirlan Bangor
Atyniadau
Mae Eglwys Gadeiriol Saint Deiniol, ym Mangor, yn sefyll ar safle sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer addoliad Cristnogol ers y 6ed Ganrif.
Capel Gwydir Uchaf
Atyniadau
Capel syml o garreg a godwyd ym 1673, yn enwog am ei nenfwd wedi ei beintio'n gain.
Castell Gwydir
Atyniadau
Wedi ei leoli yn harddwch Dyffryn Conwy dafliad carreg o Lanrwst, mae Castell Gwydir yn enghraifft ragorol o dŷ cowrt Tuduraidd gyda deg erw o erddi cyfnod rhestredig Gradd 1 hardd.
Clwb Golff St. Deiniol Bangor
Gweithgaredd
Ystyrir Clwb Golff St Deiniol Bangor yn un o'r prif gyrsiau golff yng Ngogledd Cymru. Mae'r cwrs yn edrych dros ddinas Bangor gyda golygfeydd bendigedig o Ynys Môn, Eryri ac arfordir Gogledd Cymru.
Ffin y Parc Gallery
Atyniadau
Mae gan Oriel Ffin y Parc arddangosfeydd gan rai o'r artistiaid gorau sy'n gweithio yng Nghymru, ochr yn ochr â'r gorau o Gelf Gyfoes yr 20fed Ganrif.
Gardd Fotaneg Treborth
Atyniadau
Yn berchen gan Brifysgol Bangor mae'r gerddi yn cael eu defnyddio fel adnodd ar gyfer addysgu, ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd a mwynhad.