Atyniadau
Bodnant Welsh Food
Atyniadau
Dyma’r lle i fynd i siopa a bwyta yn Nyffryn Conwy. Mae Bwyd Cymru Bodnant yn arddangos y cynnyrch artisan gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, o lysiau a chawsiau organig i gig oen mynydd a danteithion o bob math.
Neuadd Dwyfor - Canolfan Gelfyddydol a Sinema
Atyniadau
Mae’r adeilad Fictorianaidd hwn, a adeiladwyd yn 1902 bellach yn ganolfan gelfyddydol fywiog a chyfoes ac yn gartref i lyfrgell Pwllheli.
Porth y Swnt
Atyniadau
Dyma ganolfan ddehongli newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mhen draw Llŷn. Mae dyluniad syml i’r ganolfan ac mae wedi’i hysbrydoli gan bensaernïaeth Aberdaron a chefndir morwrol y pentref.
Sinema Magic Lantern
Atyniadau
Mae Sinema Magic Lantern wedi bod yn Nhywyn ers 1893, ac fe'i hadeiladwyd gyntaf fel ystafelloedd ymgynnull y dref. Roedd yn un o'r sinemâu gweithredol cyntaf yn y DU gyda phrawf yn bodoli bod ffilmiau wedi'u dangos yma ers 1900.