Atyniadau
Bach Ventures
Darparwr Gweithgareddau
Ydych chi’n chwilio am sialens newydd? Os felly, ymunwch â ni am antur. Cewch ddewis o Sgramblo Ceunentydd, Arforgampau, Caiacio a Chaiacio Môr, Dringo, Canwio neu ddiwrnod o Fynydda.
Caerau Gardens
Atyniadau
Wedi ei leoli dros 1000 troedfedd, mae gan Caerau Gardens y gerddi uchaf, sy'n agored i'r cyhoedd, yng Ngogledd Cymru. Sefydlwyd y gerddi yn 1994, ac mae yna ychwanegiadau yn cael eu gwneud trwy'r adeg.
Gwasanaeth Cwch Enlli
Atyniadau
Gan ddilyn llwybr y pererinion mewn cwch cyflym, cyfoes, gyda Gwasanaeth Cwch Enlli cewch weld cyfoeth o adar, llamhidyddion a morloi llwyd yng ngogoniant eu helfen naturiol – cyn glanio i fwynhau heddwch arbennig yr ynys unigryw hon am ryw bedair
Porth Meudwy, Uwchmynydd, Aberdaron, Gwynedd, LL53 8DA
Mentro Môr a Mynydd / Up 4 It Outdoors
Darparwr Gweithgareddau
Mae Mentro Môr a Mynydd (Cyf) / Up 4 It Outdoors Ltd yn cynnig gweithgareddau antur, cyrsiau a gwyliau awyr agored i ysgolion, cymdeithasau, teuluoedd, unigolion neu grwpiau.
Porth y Swnt
Atyniadau
Dyma ganolfan ddehongli newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mhen draw Llŷn. Mae dyluniad syml i’r ganolfan ac mae wedi’i hysbrydoli gan bensaernïaeth Aberdaron a chefndir morwrol y pentref.