Gwasanaeth Cwch Enlli
Porth Meudwy, Uwchmynydd, Aberdaron, Gwynedd, LL53 8DA
Gan ddilyn llwybr y pererinion mewn cwch cyflym, cyfoes, gyda Gwasanaeth Cwch Enlli cewch weld cyfoeth o adar, llamhidyddion a morloi llwyd yng ngogoniant eu helfen naturiol – cyn glanio i fwynhau heddwch arbennig yr ynys unigryw hon am ryw bedair awr. Yma mae hanes ysbrydol a chrefyddol, ynghyd a bywyd natur gogoneddus, yn agosach atom nac yn unlle.