Atyniadau
Chwarel Hên Llanfair
Atyniadau
Mae'r llechen yn y gloddfa yma, sydd i'w ddarganfod mewn gwythiennau rhwng haenau o greigiau y cyfnod cyn - Gambraidd, ymysg y rhai hynaf yn y byd. Mae llawer o drefi diwydiannol Prydain ac Iwerddon wedi eu toi gyda llechi Llanfair.
Clwb Hwylio Meirionnydd
Gweithgaredd
Clwb cynnes a chroesawgar gyda chyfleusterau rhagorol, wedi'i leoli yn Abermaw, sy'n rhoi mynediad i un o'r ardaloedd hwylio mwyaf prydferth yng Nghymru, Bae Ceredigion.
Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant Harlech
Gweithgaredd
Yn enwog yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, mae Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant yn un o brif gyrsiau golff Cymru ac yn aml mae'n cael ei ystyried y 'Cwrs golff gorau yng Ngogledd Cymru'.
Clwb Golff Fairbourne
Gweithgaredd
Mae'r cwrs golff 1000 llath par 3 yma yn un gwych ar gyfer dechreuwyr, ac ar agor i'r cyhoedd. Gellir llogi clybiau a pheli. Ar ôl cwblhau eich rownd, ymlaciwch ac edmygwch cadwyn mynyddoedd Cader Idris a'r bryniau uwchben Abermaw.
CMC Adventure
Darparwr Gweithgareddau
Mae CMC Adventure yn ganolfan gweithgareddau awyr agored wedi'i leoli yn Harbwr Pensarn, ac o fewn pellter cerdded i'r traeth a phentref Llanbedr.