Atyniadau
Aberconwy House
Atyniadau
Tŷ masnachwr o'r 14eg ganrif, Tŷ Aberconwy yw'r unig dŷ masnachol canoloesol yng Nghonwy i oroesi bron i chwe canrif o hanes cythryblus y dref.
Boutique Tours of Snowdonia
Darparwr Gweithgareddau
Gadewch i Boutique Tours of Snowdonia eich helpu i 'Wneud y gorau o'ch ymweliad a darganfod mwy' o Eryri gyda'u teithiau tywys gyrrwr preifat enwog.
Capel Gwydir Uchaf
Atyniadau
Capel syml o garreg a godwyd ym 1673, yn enwog am ei nenfwd wedi ei beintio'n gain.
Castell Dolwyddelan
Atyniadau
Caer ysblennydd o'r 13eg ganrif, a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a llywodraethwr y rhan fwyaf o Gymru, mae Castell Dolwyddelan yn sefyll ar fryncyn creigiog yn nyffryn darluniadol Lledr rhwng Betws-y-Coed a Blaenau Ffestiniog.
Castell Conwy
Atyniadau
Wedi’i adeiladu ar gyfer Edward I, gan Master James of St George, mae Castell Conwy ymhlith y cadarnleoedd canoloesol gorau sydd wedi goroesi ym Mhrydain.
Castell Gwydir
Atyniadau
Wedi ei leoli yn harddwch Dyffryn Conwy dafliad carreg o Lanrwst, mae Castell Gwydir yn enghraifft ragorol o dŷ cowrt Tuduraidd gyda deg erw o erddi cyfnod rhestredig Gradd 1 hardd.