Atyniadau
Amgueddfa Awyrennol Caernarfon Airworld
Atyniadau
Wedi ei leoli ar gyn faes awyr yr RAF Llandwrog, mae gan yr amgueddfa gasgliad trawiadol o awyrennau a phethau cofiadwy awyrennu, gan gynnwys D.H. Vampire, Hawker Hunter F1, Hawker Sea Hawk, Westland Whirlwind a BAe Harrier.
Amgueddfa Lechi Cymru
Atyniadau
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.
Castell Penrhyn
Atyniadau
Mae'r castell anferthol neo-Normanaidd yma, o'r 19ed ganrif, wedi ei leoli rhwng Eryri a'r Afon Menai.
Yr Ysgwrn
Atyniadau
Nid oes rhyfedd mai milwr anfodlon oedd Hedd Wyn wrth i chi sefyll ar aelwyd Yr Ysgwrn ar ddyddiau hir o haf. Ei gartref oedd ei fwyniant, ei gynefin oedd ei nefoedd, a'i bensil oedd ei unig arf.