Ffordd y Gogledd - Cylchdeithiau

Mae Ffordd y Gogledd yn dilyn llwybr hen ffordd fasnach am 75 milltir (120km) ar hyd arfordir y gogledd a throsodd i Ynys Môn. Yn ogystal â threfi gwyliau glan y môr a chestyll mawreddog sydd ar hyd y daith, mae Ffordd y Gogledd yn cynnig cyfle i ddarganfod cefn gwlad godidog Gogledd Cymru. Gallwch fynd ar antur trwy Ddyffrynnoedd Clwyd a Chonwy, mynyddoedd Eryri, y Fenai, ac ynys fwyaf Cymru sef Ynys Môn.

Rydym wedi creu mapiau sy'n cynnwys cylchdeithiau a llwybrau lleol oddi ar Ffordd y Gogledd, fel man cychwyn ar gyfer profi tirwedd, harddwch a threftadaeth gyfoethog y rhanbarth - gyda digon o lefydd i fwyta, aros a mwynhau ar hyd y ffordd.

Mae modd lawrlwytho feriswn PDF ar gyfer cyfrifiaduron sydd gyda cyswllt i mapiau Google sy'n dangos y gwahanol lefydd i ymweld.

Os ydych yn defnyddio tabled neu ffôn symudol yna lawrlwythwych y fersiwn PDF yma.

The North Wales Way Route

Teithiau yn Eryri

Mae yna ddau lwybr sy'n mynd a chi o gwmpas ardal Eryri. Mae Llwybr y Dyffrynnoedd Llechi yn daith 60 milltir sy'n mynd a chi i dirlun anhygoel llechi Eryri lle rydym yn gobeithio bydd yn cael ei ddynodi fel Safle Treftadaeth y Byd er mwyn dathlu diwylliant a threftadaeth yr ardal. Dilynwch y daith i ddarganfod storïau am y diwydiant Llechi yng Nghymru gan gynnwys ymweld â Chastell Penrhyn. Bydd posib profi'r weiren zip cyflyma yn y byd yn Zip World Chwarel Penrhyn, dysgu am ein diwylliant a threftadaeth drwy ymweld â Chastell Dolbadarn, Castell Caernarfon a Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Beth am deithio ar reilffyrdd bychan hanesyddol fel Rheilffordd Yr Wyddfa, Rheilffordd Llyn Padarn a Rheilffordd Eryri. Blaswch cynnyrch lleol o bob math yng Ngwinllan a Pherllan Pant Du.

Mae atyniadau eraill ar y daith gan gynnwys Gwaith Llechi Inigo Jones a Gelli Gyffwrdd.

Llwybr y Dyffrynnoedd Llwchi

Y taith arall yn Eryri yw'r Cylchdaith Antur Awyr Agored a Threftadaeth sy'n mynd a chi i weld llefydd fel anolfan Bwyd Cymru Bodnant, Gerddi Bodnant, Adventure Parc Snowdonia, Melin Wlân Trefriw, Castell Gwydir, Zip World Fforest, Rhaeadr Ewynnol, Tŷ Hyll, Tŷ Mawr Wybrnant, Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, Castell Dinbych a Eglwys Gadeiriol Llanelwy.

Teithiau eraill yng Ngogledd Cymru

Mae posib gweld neu lawrlwytho teithiau eraill.

Cylchdaith Forwrol Gogledd Ynys Môn

Taith Arfodir Conwy

Llwybr Gweithgaredd Teulu

Cylchdaith y Gogledd Ddwyrain

Llwybr Gwyddoniaeth a Threftadaeth