Bethesda

Pentref chwarel ar stepen drws bwlch dramatig Nant Ffrancon, Rhaeadrau Ogwen a rhai o olygfeydd mwyaf gwyllt gogledd Cymru. Mae rhan ddi-draffig ar Lôn Las Ogwen, llwybr cerdded a beicio, yn awr yn cysylltu Bethesda gyda Phorth Penrhyn ar yr arfordir - cadwch lygad am yr hysbysfyrddau sydd ar y ffordd sy'n dehongli treftadaeth leol yr ardal. Datblygiad diweddar yw’r ganolfan croeso newydd yn Nant Ffrancon sy’n adwy i Gwm Idwal a Dyffryn Ogwen gyda chyfleusterau dehongli rhyngweithiol, gwybodaeth a lluniaeth. 

Gall parcio yn y dyffryn lenwi’n gyflym iawn, rydym yn cynghori eich bod yn ystyried parcio ym Methesda a dal y bws T10 rheolaidd i fyny i Gwm Idwal neu Bws Ogwen. Ceir gwasanaeth cyson bob dydd (ac eithro dydd Mercher) rhwng 8.15 y bore a 5:30 (7.30 y nos ar benwythnosau) rhwng Bethesda a Llyn Ogwen.  Bydd y bws 9 sedd yn gwneud 3 taith olynnol bob dwy awr a hynny ar bwer trydan. Bwriad y cynllun yw lleihau allyriadau carbon yn y parc cenedlaethol, lleihau’r problemau parcio yn Llyn Ogwen ond hefyd i geisio cael mwy o ymwelwyr i gefnogi busnesau ym Methesda.

Mae atyniad Zip World sydd wedi derbyn amryw o wobreuon ac yn dal i ddenu diddordeb ers iddynt agor nôl yn 2013. Mae'n gartref i'r wifren neu llinellau sip cyflymaf yn y byd lle rydych yn gwibio uwchben Chwarel y Penrhyn ar gyflymder o dros 100 milltir yr awr.