Bangor

Dinas fechan, fywiog a thref phrifysgol. Mae gan Gadeirlan Bangor wreiddiau hynafol - gellid olrhain y safle crefyddol hwn yn ôl i’r chweched ganrif. Mae cyn Blas yr Esgob wedi cael ei ailwampio fel cartref newydd i’r oriel a’r amgueddfa a elwir yn Storiel. Gellid gweld celf ac arteffactau lleol yma sydd hefyd yn ganolfan wybodaeth i Ein Treftadaeth.

A map of Bangor

Mae gan Fangor lawer o gyfleusterau hamdden yn cynnwys pwll nofio, canolfan chwarae a phier - ble y cewch fwynhau te a sgonau ffres. Mae yma siopau da hefyd (i lawr Stryd Fawr hiraf Cymru yn ôl y sôn), wedi’u hatgyfnerthu gan Ganolfan Menai a Chanolfan Deiniol.

Mae Pier Garth Bangor, sy'n adeilad hardd ac yn adeilad prydferth Gradd II ac yn 470m. Mae'n ail bier hiraf yng Nghymru ac eleni mae'n dathlu ei ben-blwydd yn 125 oed a chafodd ei bleidleisio'n Pier y Flwyddyn 2022 gan Gymdeithas y Piers Cenedlaethol.

Ewch i weld Pontio, lleoliad i gynyrchiadau theatr, ffilm, cerddoriaeth, syrcas, dawns a chelfyddydau perfformio arloesol eraill. Peidiwch ag anghofio ychwaith am Gastell Penrhyn, plasty’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a leolir mewn gerddi hardd ar gyrion y dref. Heb fod yn bell ychwaith mae Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd, atyniad poblogaidd iawn i’r teulu a Zip World yn Chwarel Penrhyn, Bethesda sy'n llinell wib gyflymaf yn y byd.

Zip World Chwarel Penrhyn

Os yn chwilio am lety a pethau i'w wneud o gwmpas Bangor yna cliciwch y linciau isod.

Llety: Rhestr I Map
Atyniadau/Gweithgareddau: Rhestr I Map
Llefydd i fwyta: Rhestr I Map
Siopau a chynnyrch lleol: Rhestr I Map