Llefydd i fwyta
Caffi Gwynant
Mae Caffi Gwynant yn lle delfrydol ar gyfer diod, byrbryd, brecwast neu bryd bwyd mwy sylweddol cyn neu ar ôl mynd am dro i gopa'r Wyddfa (Llwybr Watkin), neu os ydych chi dim ond yn teithio trwy Eryri.
Glyn y Weddw Arms Tŷ Du
Mae Tafarn y Glyn-y Weddw Tŷ Du yn Llanbedrog ar agor 7 diwrnod yr wythnos am ddiodydd a bwyd ac yn cynnig croeso cynnes a chyfeillgar i gwsmeriaid, ac awyrgylch braf i fwynhau'r prydau bwyd blasus.
Y Llong - Llanbedrog
Mae'r Llong ym mhentref Llanbedrog yn gweini clasuron traddodiadol tafarn mewn awyrgylch hamddenol.
Ffordd Pedrog, Llanbedrog, Gwynedd, LL53 7PE
Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Mae'r oriel gelf unigryw yma wedi ei lleoli yn Llanbedrog ym Mhen Llyn darluniadwy. Mae'r Plasty Fictorianaidd Gothig wedi ei restru'n radd II yma yn lle perffaith i weld peth o gelf cyfoes gorau Cymru.
Pen Y Gwryd Hotel
Tafarn / gwesty mynydda hanesyddol yn agos iawn i'r Wyddfa mewn ardal hardd. Ceir nifer o ystafelloedd gyda phaneli coed clyd â llawer o gofebion mynydda yn ogystal â sawl llofnod enwog yn cwmpasu'r nenfwd. Gwerthir cwrw ‘Mŵs Piws’.
Tremfan Hall
Mae Tremfan Hall yn dŷ arfordirol mawreddog ger Llanbedrog, gyda golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion a mynyddoedd Eryri.