Llefydd i fwyta
Caffi’r Tyddyn
Symud o'r Arweinlyfr
Adio i'r Arweinlyfr
Caffi wedi'i leoli o fewn Canolfan Arddio Tyddyn Sachau, yn cynnig bwydlen fforddiadwy, iachus yn seiliedig ar fwyd cartref a chynnyrch ffres, lleol. Ceir golygfeydd godidog o Eryri, Moel Hebog a'r morlin mor bell â Phorthmadog a'r Bermo.
Gwesty Plas y Goedlan
Symud o'r Arweinlyfr
Adio i'r Arweinlyfr
Mae Gwesty Plas y Goedlan wedi'i leoli mewn 7 erw o'i thiroedd ei hun. Mae bar a bwyty'r gwesty ar agor i drigolion a rhai nad ydynt yn drigolion, gan ddarparu bwydlen helaeth yn ogystal â byrbrydau, prydau bar a seler gwin â stoc dda.