Llefydd i fwyta
Aberdunant Hall
Mae bwyty Aberdunant Hall yn gweini prydau clasurol gyda rhywbeth i'r teulu cyfan, gan gynnwys prydau heb glwten, llysieuol a fegan.
Bwyty Blondin
Mae Bwyty Blondin wedi'i leoli yn Zip World Chwarel Penrhyn ym Methesda. Mae'n lleoliad modern, ar ffurf bistro, yn cynnig cynnyrch lleol.
Caffi Seren
Gwerthir brecwast, cinio, panini's a brechdanau wedi eu tostio.
Caffi Lakeside
Yn swatio rhwng llyn a rhaeadr wrth droed mynyddoedd y Moelwyn, yng nghanol Eryri, mae Caffi Lakeside yn ganolbwynt (ac mewn tywydd gwael, lloches) i gerddwyr, dringwyr, ogofawyr a beicwyr.
Ffestiniog Power Station, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3TP
Tafarn y Garddfôn
Wedi'i lleoli ym mhentref Y Felinheli ar lannau hardd yr Afon Menai, mae Tafarn y Garddfôn yn enghraifft wŷch o dafarn gymunedol draddodiadol Gymreig.
The Swellies
Mae’r Swellies yn gaffi bach prysur sydd yn defnyddio cynhwysion lleol i gyd-fynd gyda’r fwydlen wladaidd.