Llefydd i fwyta
Bwyty Blondin
Mae Bwyty Blondin wedi'i leoli yn Zip World Chwarel Penrhyn ym Methesda. Mae'n lleoliad modern, ar ffurf bistro, yn cynnig cynnyrch lleol.
Bwyty'r Copa
Bwyty ym mhentref Llanberis yw'r Peak, sydd wedi'i leoli mewn rhan hyfryd o Eryri, lle mae miloedd o gerddwyr, dringwyr a phobl leol yn mynychu gydol y flwyddyn.
Caffi Blas Y Waun
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Caffi Seren
Gwerthir brecwast, cinio, panini's a brechdanau wedi eu tostio.
Caffi Lakeside
Yn swatio rhwng llyn a rhaeadr wrth droed mynyddoedd y Moelwyn, yng nghanol Eryri, mae Caffi Lakeside yn ganolbwynt (ac mewn tywydd gwael, lloches) i gerddwyr, dringwyr, ogofawyr a beicwyr.
Ffestiniog Power Station, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3TP
Georgio's Ice Cream
Gwneir Hufen Iâ Georgio gyda llaeth cyflawn a hufen ffres o laethdy lleol. Mae hwn yn hufen iâ llaeth cartref go iawn, wedi'i wneud mor ffres â phosibl bob dydd fel arfer. Gwneir eu holl hufen iâ a eisin ffrwythau yn yr adeilad.