Llefydd i fwyta
Y Bistro yn yr Hebog
Caffi a Bistro, wedi'i leoli ym Meddgelert, yn gweini cinio, prydau bar a chacennau cartref.
Tŷ Te Cadair
Caffi ar ddechrau Llwybr Minffordd i Gader Idris, yn gwein cacennau traddodiadol cartref, cawl blasus, brechdannau ffres, baguettes a chinio poeth. Cynhwysion o ffynonellau lleol, lle bo modd
Talyllyn, Gwynedd, LL36 9AJ
Glaslyn
Mae Glaslyn yn gynhyrchwyr crefftus hufen iâ a sorbed arobryn, gan greu popeth mewn sypiau bach, wedi'u gwneud â llaw, yn eu parlwr. Mae'r caffi ar agor eto, ond rŵan fel pizzeria arbenigol.
Gwesty Tynycornel
Mae yna fwyty gwych yn Tynycornel, y cogydd yn creu bwydlenni tymhorol rhagorol, gydag amrywiaeth o ddanteithion lleol i ategu prydau poblogaidd Prydeinig. Gallant hefyd ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion dietegol sydd gennych.
Gwesty Minffordd
Mae Gwesty Minffordd Hotel yn llawer mwy na gwesty yn Eryri, yn hytrach mae'n encil hudolus gyda bwyty da a bar clyd yn gweini ystod dda o winoedd a chwrw lleol traddodiadol.
Gwesty Pen-Y-Bont Hotel
Ar lan De Orllewinol Llyn Talyllyn fe welwch Westy Pen-y-Bont, tafarn 16eg Ganrif, o ddyddiau'r goetsh fawr, gydag un o'r golygfeydd mwyaf eiconig yng Nghymru.