Llefydd i fwyta
Becws Islyn
Becws bychan ym mhentref Aberdaron. Mae bara a chacennau yn cael eu pobi'n ddyddiol, a cheir caffi ar y llawr cyntaf ar gyfer brecwast, byrbrydau ac amrywiol ddanteithion melys a sawrus.
Caffi'r Mynydd
Caffi cartrefol mewn lleoliad godidog ym mhen draw Llŷn. Cewch frecwast, prydau ysgafn, te prynhawn gyda chacennau cartref, hufen iâ a lluniaeth ysgafn am bris rhesymol.
Glyn y Weddw Arms Tŷ Du
Mae Tafarn y Glyn-y Weddw Tŷ Du yn Llanbedrog ar agor 7 diwrnod yr wythnos am ddiodydd a bwyd ac yn cynnig croeso cynnes a chyfeillgar i gwsmeriaid, ac awyrgylch braf i fwynhau'r prydau bwyd blasus.
Gwesty Tŷ Newydd
Gwesty a thafarn pedair seren ar lannau Bae Aberdaron. Golygfeydd gwych a chroeso cynnes drwy gydol y flwyddyn.
Y Llong - Llanbedrog
Mae'r Llong ym mhentref Llanbedrog yn gweini clasuron traddodiadol tafarn mewn awyrgylch hamddenol.
Ffordd Pedrog, Llanbedrog, Gwynedd, LL53 7PE