Llefydd i fwyta
Becws Islyn
Becws bychan ym mhentref Aberdaron. Mae bara a chacennau yn cael eu pobi'n ddyddiol, a cheir caffi ar y llawr cyntaf ar gyfer brecwast, byrbrydau ac amrywiol ddanteithion melys a sawrus.
Y Caffi Crefft - Yr Hen Siop
Mae Yr Hen Siop yn gaffi cyfeillgar sy'n gweini diodydd poeth ac oer, brechdanau a chacennau blasus, ac mae hefyd yn lle gwych ar gyfer beicwyr a cherddwyr.
Caffi'r Mynydd
Caffi cartrefol mewn lleoliad godidog ym mhen draw Llŷn. Cewch frecwast, prydau ysgafn, te prynhawn gyda chacennau cartref, hufen iâ a lluniaeth ysgafn am bris rhesymol.
Gwesty Tŷ Newydd
Gwesty a thafarn pedair seren ar lannau Bae Aberdaron. Golygfeydd gwych a chroeso cynnes drwy gydol y flwyddyn.
Y Llew Coch
Mae'r Llew Coch yng nghanol Dinas Mawddwy gydag awyrgylch gwych, traddodiadol ond bywiog lle mae hanes y dafarn hon yn eich gorchuddio o'r eiliad i chi gerdded i mewn.