Llefydd i fwyta
De Niros
Mae DeNiros yn gaffi teulu cyfeillgar sy'n darparu ar gyfer pob chwaeth. Mae yma fwydlen amrywiol o frecwast i 'hot-pot' cig oen cartref, tsili i lasagne, pysgod a sglodion a brechdanau. Mae yna sawl opsiwn fegan a llysieuol ar gael.
Plas Penaeldroch Manor
Caffi trwyddedig gyda golygfeydd eithriadol o'r afon, sy'n cynnig croeso cynnes, cacennau cartref a chyffeithiau a bwyd poeth wedi'i goginio'n ffres. Cigydd lleol sy'n cyflenwi'r byrgyrs, selsig a chig moch.
The Lion Hotel
Mae’r Lion yn dafarn draddodiadol yng nghanol pentref Tudweiliog. Rydym yn cynnig bwyd da, cwrw lleol a dewis eang o wisgi brag a dewis cynyddol o jin.
Wal Restaurant
Mae bwydlen eclectig Bwyty Wal yn cynnwys popeth o fyrgyrs i'ch bodloni amser cinio i stêcs ffiled o'r ansawdd gorau. Daw'r cig i gyd o Neuadd Llanfair, dim ond pedair milltir i fyny'r ffordd.