Llefydd i fwyta
Cadwaladers Porthmadog
Mae hufen iâ Cadwaladers wedi dod yn rhan fawr o'r diwylliant yn lleol ac mae eu henw da wedi lledaenu ymhell ac agos. Mae hufen iâ fanila enwog Cadwaladers ar gael bob amser yn ogystal â dewis eang o flasau hufen iâ eraill.
Café Rosa
Caffi sy'n gweini brecwastau drwy'r dydd a chinio ysgafn yng nghanolfan garddio a siop sy'n cyflenwi eich holl hanfodion gardd ac anrhegion - Pendre Garden Centre.
Caffi Gerlan
Mae'r caffi drws nesaf i Waith Llechi Inigo Jones, ac mae'n cael ei redeg gan y ffarmwr a'r cigydd lleol Dafydd Jones, sydd hefyd wedi agor siop cigydd a chynnyrch ffarm drws nesaf i'r caffi.
Inigo Jones, Groeslon, Gwynedd, LL54 7UE
Caffi Castell Harlech
Cacennau wedi'u pobi yn ffres, coffi gwych a golygfeydd anhygoel o'r ardal. Yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n cynllunio ymweld â'r castell.
Sgwâr y Castell, Harlech, Gwynedd, LL46 2YH
Caffi Largo
Caffi newydd wedi ei leoli ger traeth Pwllheli sydd yn gweini bwyd cartref safonol yn defnyddio cynnyrch lleol. Pitsas, ac wrth gwrs...hufen iâ.
Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AB
Caffi Meinir
Wedi ei leoli yn Nant Gwrtheyrn, hen bentref chwarelyddol sydd bellach yn gartref y Ganolfan Iaith Genedlaethol, mae Caffi Meinir, sydd hefyd yn fwyty trwyddedig, yn gweini amrywiaeth o brydau cartref, byrbrydau a lluniaeth.