Llefydd i fwyta
Voltaire
Dewch i brofi bwyd iach a blasus o safbwynt fegan modern yn Voltaire, bwyty fegan sy'n cynnig platiau i'w rhannu a tapas yn ogystal â brecwast.
Wal Restaurant
Mae bwydlen eclectig Bwyty Wal yn cynnwys popeth o fyrgyrs i'ch bodloni amser cinio i stêcs ffiled o'r ansawdd gorau. Daw'r cig i gyd o Neuadd Llanfair, dim ond pedair milltir i fyny'r ffordd.
Whitehall
Mae Whitehall yn gastro-dafarn sydd wedi'i lleoli yng nghanol Pwllheli, ac yn boblogaidd gyda thwristiaid a phobl leol fel ei gilydd, sy'n ei gwneud yn lleoliad prysur drwy gydol y flwyddyn.
Tŷ Winsh
Caffi annibynnol yn gweini cynnyrch lleol ffres - brecwast, ciniawau a the prynhawn - a choffi blasus iawn! Darperir gwasanaeth tecawê a bwffe ar gyfer pob achlysur hefyd.
Ysgethin Inn
Mwynhewch y cyfle i fwyta wrth edrych dros afon Ysgethin yn yr Ysgethin Inn sydd, dros y blynyddoedd, wedi ennill enw da am gwrw coeth a bwyd rhagorol.
Ffordd Ysgethin, Talybont, Abermaw, Gwynedd, LL43 2AN