Llefydd i fwyta
Cadwaladers Porthmadog
Mae hufen iâ Cadwaladers wedi dod yn rhan fawr o'r diwylliant yn lleol ac mae eu henw da wedi lledaenu ymhell ac agos. Mae hufen iâ fanila enwog Cadwaladers ar gael bob amser yn ogystal â dewis eang o flasau hufen iâ eraill.
Good Mood
Bwyty ar y cei ym Mhorthmadog yn gweini byrgyrs arbennig, pizza a phasta.
Yr Hen Fecws
Mae’r bwyty yn Yr Hen Fecws yn fan cynnes a deniadol, perffaith ar gyfer mwynhau pryd o fwyd ar gyfer unrhyw achlysur. Mae yma fwydlen hyfryd wedi ei greu gan ddefnyddio cynnyrch leol , gyda dewis eang o winoedd.
Royal Sportsman Hotel
Gweinir prydau eithriadol am bris rhesymol, gan ddefnyddio dim ond y cynhwysion gorau, mwyaf ffres, a geir yn bennaf gan gyflenwyr lleol yng Nghymru, yn y Bwyty cain 60 sedd neu'r bar traddodiadol.
Spooners
Wedi'i leoli yng Ngorsaf yr Harbwr Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ym Mhorthmadog, mae Spooners yn cynnig amrywiaeth o fwyd tafarn, cinio Sul, cacennau, melysion, diodydd poeth ac oer, yn ogystal ag amrywiaeth o gwrw casgen a gwirodydd lleol.