Llefydd i fwyta
Bron Eifion Hotel
Mae Bwyty Gardd Bron Eifion yn darparu rhywbeth at ddant pawb, p'un ai ydych yn chwilio am bryd bwyd 3 cwrs llawn, swper ysgafn, pryd rhamantus i 2, dathliad gyda ffrindiau neu noson hamddenol gyda bwyd a diod da.
Caffi Cabin
Os ydych yn chwilio am wasanaeth gyda gwên, awyrgylch cyfeillgar, bwyd cartref, Caffi Cabin yw’r lle i ymlacio ym Mhwllheli. Croeso cynnes i bawb. Dyfarnwyd caffi thema'r flwyddyn yn 2016.
Caffi'r Mynydd
Caffi cartrefol mewn lleoliad godidog ym mhen draw Llŷn. Cewch frecwast, prydau ysgafn, te prynhawn gyda chacennau cartref, hufen iâ a lluniaeth ysgafn am bris rhesymol.
Gwesty Porth Tocyn
Mae Porth Tocyn yn fusnes teuluol sydd yn dathlu dros 70 mlynedd o wasanaeth llwyddiannus.
Petal-á-Pot
Wedi'i lleoli yng Nghanolfan Arddio Abersoch, mae Petal-á-Pot yn ystafell de drwyddedig clyd o arddull Ffrengig sy'n defnyddio'r cynnyrch lleol gorau.