Llefydd i fwyta
Bistro Bermo
Busnes bach teuluol, yn cynnig bwyd a gwin rhagorol, gyda gwasanaeth cyfeillgar ac astud.
Bron Eifion Hotel
Mae Bwyty Gardd Bron Eifion yn darparu rhywbeth at ddant pawb, p'un ai ydych yn chwilio am bryd bwyd 3 cwrs llawn, swper ysgafn, pryd rhamantus i 2, dathliad gyda ffrindiau neu noson hamddenol gyda bwyd a diod da.
Indiana Cuisine
Mae Indiana Cuisine yn darparu bwydydd Indiaidd dilys ym mhentref arfordirol hyfryd Fairbourne. Profwch ansawdd eithriadol y bwyd gyda lletygarwch o'r radd flaenaf.
Y Maes
‘Darn o’r nefoedd ger Harlech’.
Holl hwyl y traeth mewn un lle; caffi, parcio, toiledau, pyllau creigiog, tywod, y môr a chyffro ar flaenau eich bysedd.
Proper Gander Tywyn
Mae Proper Gander yn dŷ bwyta sy’n frwd dros etifeddiaeth a chynnyrch Cymreig. Maent yn cael eu cig eidion gwartheg duon Cymreig a chig oen Cymreig oddi wrth y cigydd yn Aberdyfi.