Llefydd i fwyta
Voltaire
Dewch i brofi bwyd iach a blasus o safbwynt fegan modern yn Voltaire, bwyty fegan sy'n cynnig platiau i'w rhannu a tapas yn ogystal â brecwast.
Wal Restaurant
Mae bwydlen eclectig Bwyty Wal yn cynnwys popeth o fyrgyrs i'ch bodloni amser cinio i stêcs ffiled o'r ansawdd gorau. Daw'r cig i gyd o Neuadd Llanfair, dim ond pedair milltir i fyny'r ffordd.
Tŷ Winsh
Caffi annibynnol yn gweini cynnyrch lleol ffres - brecwast, ciniawau a the prynhawn - a choffi blasus iawn! Darperir gwasanaeth tecawê a bwffe ar gyfer pob achlysur hefyd.
Wood Fired Shack
Mae Wood Fired Shack wedi'i leoli yng nghanol Stryd Fawr Bangor, yn edrych dros yr eglwys gadeiriol hardd.
Yugen Coffee House
Mae Yugen Coffee House, sy'n siop goffi arbenigol, hefyd yn gweini te dail rhydd arbenigol o bob cwr o'r byd, ac amrywiaeth o fwydydd a danteithion melys.