Llefydd i fwyta
Caffi Blas Y Waun
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Cegin Ceri
Caffi, Deli a Siop yn gwerthu cynnyrch ffres lleol. Mae croeso i seiclwyr, gydag ardal storio ddiogel, gorsaf waith proffesiynol a phwmp aer.
Y Gwynedd Bar & Diner
Mae'r Gwynedd Bar & Diner yn Llanberis yn ddim ond 5 munud o gerdded i Reilffordd yr Wyddfa ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o atyniadau lleol.
Pant Du - Tŷ Bwyta & Bar
Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt.
Pantri
Mae croeso cynnes yn aros i bawb yn siop goffi deuluol Pantri yn Llanberis.
Penceunant Isaf
Mae Pen-y-Ceunant Isaf yn gaffi cerddwyr croesawgar a chyfeillgar, diymhongar ar lethrau isaf yr Wyddfa ar Lwybr Llanberis. Rydych chi bob amser yn sicr o groeso cynnes, a'r cyfle i gwrdd â phobl ddiddorol.