Llefydd i fwyta
Antur Stiniog - Y Siop
Canolfan newydd Antur 'Stiniog yng nghanol Bro Ffestiniog. Dyma fenter masnachol efo calon cymdeithasol. Mae’r Siop yn fan gwybodaeth ar gyfer rhyfeddodau ardal unigryw Bro Ffestiniog.
Caffi Lakeside
Yn swatio rhwng llyn a rhaeadr wrth droed mynyddoedd y Moelwyn, yng nghanol Eryri, mae Caffi Lakeside yn ganolbwynt (ac mewn tywydd gwael, lloches) i gerddwyr, dringwyr, ogofawyr a beicwyr.
Ffestiniog Power Station, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3TP
Davy Jones Locker
Mae caffi Davy Jones Locker wedi ei leoli mewn un o adeiladau hynaf Abermaw, yn dyddio yn ôl i'r 15ed Ganrif. Mae'n sefyll ar harbwr del Abermaw, gyda golgfeydd godidog o Gader Idris dros yr aber.
Y Cei, Abermaw, Gwynedd, LL42 1ET
De Niros
Mae DeNiros yn gaffi teulu cyfeillgar sy'n darparu ar gyfer pob chwaeth. Mae yma fwydlen amrywiol o frecwast i 'hot-pot' cig oen cartref, tsili i lasagne, pysgod a sglodion a brechdanau. Mae yna sawl opsiwn fegan a llysieuol ar gael.