Llefydd i fwyta
Y Caffi Crefft - Yr Hen Siop
Mae Yr Hen Siop yn gaffi cyfeillgar sy'n gweini diodydd poeth ac oer, brechdanau a chacennau blasus, ac mae hefyd yn lle gwych ar gyfer beicwyr a cherddwyr.
Caffi Cabin
Os ydych yn chwilio am wasanaeth gyda gwên, awyrgylch cyfeillgar, bwyd cartref, Caffi Cabin yw’r lle i ymlacio ym Mhwllheli. Croeso cynnes i bawb. Dyfarnwyd caffi thema'r flwyddyn yn 2016.
Te a Cofi
Mae Te a Cofi yn gaffi sydd ar agor i’r cyhoedd ac ar yr un pryd yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc yn y maes arlwyo.
Garreg Ddu
Siop frechdanau ym Mhorthmadog sy'n gweini brechdanau ffres, cacennau cartref a choffi gwych.
4 Stryd y Banc, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9AA
Y Maes
‘Darn o’r nefoedd ger Harlech’.
Holl hwyl y traeth mewn un lle; caffi, parcio, toiledau, pyllau creigiog, tywod, y môr a chyffro ar flaenau eich bysedd.
Mañana
Tŷ bwyty teuluol, Mecsicanaidd gyda bwyd da ac awyrgylch gwych yw Mañana. Agorwyd 22 mlynedd yn ôl gan yr un teulu ac sydd yn ei rhedeg heddiw. Rydym yn cynnig profiad bwyty croesawgar gyda dewis eang o goctels gwych a rhestr win cyffrous.