Llefydd i fwyta
Britannia Inn
Tafarn o ddyddiau'r goetsh fawr yn yr 17eg Ganrif, yn gweini bwyd gwych wedi'i goginio gartref. Mae golygfeydd godidog o'r aber o'r bwyty eang ar y llawr cyntaf yn y Britannia Inn.
Brondanw Arms
Mae'r Brondanaw Arms, a elwir yn lleol fel 'Y Ring', yn dafarn o'r 17eg Ganrif wedi'i lleoli yn ystâd enwog Brondanw a chyn-gartref y pensaer enwog Clough Williams Ellis.
Bryn Hir Arms
Tafarn gyfeillgar sydd yn gweini bwyd, gyda seddi awyr agored ar gael.
Y Castell
Mae Gwesty Y Castell ar y sgwâr yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon. Mwynhewch olygfeydd o Gastell Caernarfon wrth gael coffi, diod neu ginio ysgafn. Mae llawer o atyniadau twristaidd Caernarfon ond tafliad carreg i ffwrdd.
Tŷ Coch Inn
Gellir dadlau mai Tŷ Coch Inn yw'r dafarn orau yng Nghymru ac mae’n SWYDDOGOL yn y deg bar traeth gorau yn y byd ...