Llefydd i fwyta
Cegin Ceri
Caffi, Deli a Siop yn gwerthu cynnyrch ffres lleol. Mae croeso i seiclwyr, gydag ardal storio ddiogel, gorsaf waith proffesiynol a phwmp aer.
Glaslyn
Mae Glaslyn yn gynhyrchwyr crefftus hufen iâ a sorbed arobryn, gan greu popeth mewn sypiau bach, wedi'u gwneud â llaw, yn eu parlwr. Mae'r caffi ar agor eto, ond rŵan fel pizzeria arbenigol.
Pant Du - Tŷ Bwyta & Bar
Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt.
Tanronnen Inn
Lleolir y gwesty yng nghanol y pentref, sydd ym mhen pellaf bwlch godidog Aberglaslyn yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r Tanronnen wedi hen ennill enw da am ei safon uchel o fwyd a'r awyrgylch cartrefol a chlyd.