Llefydd i fwyta
Gwin Dylanwad Wine
Caffi / bar / siop win yng nghanol Dolgellau. Lle y gallwch ddod am baned a chacen, glasiad o win, prydau ysgafn neu brynu potel o win o’r seler. Maent yn mewnforio gwinoedd o bob cwr o Ewrop, gan ychwanegu gwinoedd o bob rhan o'r byd.
Lion Hotel
5 munud o'r traeth gyda golygfeydd syfrdanol ar draws Eryri, mae Gwesty’r Llew yng Nghanol Criccieth.ac yn cynnig bwyd cartef, parcio am ddim a bar cyfeillgar.
Royal Sportsman Hotel
Gweinir prydau eithriadol am bris rhesymol, gan ddefnyddio dim ond y cynhwysion gorau, mwyaf ffres, a geir yn bennaf gan gyflenwyr lleol yng Nghymru, yn y Bwyty cain 60 sedd neu'r bar traddodiadol.
Wal Restaurant
Mae bwydlen eclectig Bwyty Wal yn cynnwys popeth o fyrgyrs i'ch bodloni amser cinio i stêcs ffiled o'r ansawdd gorau. Daw'r cig i gyd o Neuadd Llanfair, dim ond pedair milltir i fyny'r ffordd.