Llefydd i fwyta
Bron Eifion Hotel
Mae Bwyty Gardd Bron Eifion yn darparu rhywbeth at ddant pawb, p'un ai ydych yn chwilio am bryd bwyd 3 cwrs llawn, swper ysgafn, pryd rhamantus i 2, dathliad gyda ffrindiau neu noson hamddenol gyda bwyd a diod da.
Bwyty'r Copa
Bwyty ym mhentref Llanberis yw'r Peak, sydd wedi'i leoli mewn rhan hyfryd o Eryri, lle mae miloedd o gerddwyr, dringwyr a phobl leol yn mynychu gydol y flwyddyn.
Caffi Blas Y Waun
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Caffi Seren
Gwerthir brecwast, cinio, panini's a brechdanau wedi eu tostio.
Te a Cofi
Mae Te a Cofi yn gaffi sydd ar agor i’r cyhoedd ac ar yr un pryd yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc yn y maes arlwyo.
Glaslyn
Mae Glaslyn yn gynhyrchwyr crefftus hufen iâ a sorbed arobryn, gan greu popeth mewn sypiau bach, wedi'u gwneud â llaw, yn eu parlwr. Mae'r caffi ar agor eto, ond rŵan fel pizzeria arbenigol.