Llefydd i fwyta
Becws Islyn
Becws bychan ym mhentref Aberdaron. Mae bara a chacennau yn cael eu pobi'n ddyddiol, a cheir caffi ar y llawr cyntaf ar gyfer brecwast, byrbrydau ac amrywiol ddanteithion melys a sawrus.
Bron Eifion Hotel
Mae Bwyty Gardd Bron Eifion yn darparu rhywbeth at ddant pawb, p'un ai ydych yn chwilio am bryd bwyd 3 cwrs llawn, swper ysgafn, pryd rhamantus i 2, dathliad gyda ffrindiau neu noson hamddenol gyda bwyd a diod da.
Caffi Cabin
Os ydych yn chwilio am wasanaeth gyda gwên, awyrgylch cyfeillgar, bwyd cartref, Caffi Cabin yw’r lle i ymlacio ym Mhwllheli. Croeso cynnes i bawb. Dyfarnwyd caffi thema'r flwyddyn yn 2016.
The Lion Hotel
Mae’r Lion yn dafarn draddodiadol yng nghanol pentref Tudweiliog. Rydym yn cynnig bwyd da, cwrw lleol a dewis eang o wisgi brag a dewis cynyddol o jin.
Two Islands Ice Cream
Mae Two Islands Ice Cream, yn Abersoch, yn barlwr hufen iâ sydd yn cynhyrchu hufen iâ ar y safle yn y ffordd draddodiadol gan ddefnyddio cynhwysion o'r ansawdd gorau posibl, wedi'w cyrchu yn lleol.