Llefydd i fwyta
Y Maes
‘Darn o’r nefoedd ger Harlech’.
Holl hwyl y traeth mewn un lle; caffi, parcio, toiledau, pyllau creigiog, tywod, y môr a chyffro ar flaenau eich bysedd.
Tŷ Mawr Tea Room
Mae Tŷ Mawr yn 200 mlwydd oed ac wedi'i leoli ym mhentref Rhyd Ddu wrth droed Yr Wyddfa.
Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Mae'r oriel gelf unigryw yma wedi ei lleoli yn Llanbedrog ym Mhen Llyn darluniadwy. Mae'r Plasty Fictorianaidd Gothig wedi ei restru'n radd II yma yn lle perffaith i weld peth o gelf cyfoes gorau Cymru.
Pant Du - Tŷ Bwyta & Bar
Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt.
Sospan Fach
Bwyd cartrefol, da. Caiff yr holl gynnyrch cig ei gyflenwi gan T. J. Roberts, cigydd lleol. Ceir prydau wyau yn defnyddio wyau Cae Pant, te prynhawn cartref a chwrw Wrecsam ar dap. Croeso Cynnes!
97, Y Stryd Fawr, Bala, Gwynedd, LL23 7AE
The Lion Hotel
Mae’r Lion yn dafarn draddodiadol yng nghanol pentref Tudweiliog. Rydym yn cynnig bwyd da, cwrw lleol a dewis eang o wisgi brag a dewis cynyddol o jin.