Atyniadau
Amgueddfa Syr Henry Jones
Atyniadau
Mae’r amgueddfa ddeniadol hon ar fywyd gwledig Cymru yn dathlu bywyd rhyfeddol Henry Jones, a anwyd yn Llangernyw yn 1852.
Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn
Darparwr Gweithgareddau
Mae Gwersyll Glan-Llyn yn ganolfan addysg awyr agored wedi'i leoli ar lannau Llyn Tegid ger Y Bala.
PaintballWales.com
Gweithgaredd, Atyniadau
Un o'r llefydd gorau i saethu paent (paintball) yng Nghymru. Mae'r parc ger Bangor yng Ngogledd Cymru, gyda golygfeydd godidog o Eryri.
Warrior Woods, Llanddeiniolen, Caernarfon, Gwynedd, LL55 3AW
Pont Minllyn
Atyniadau
Pont gul ar draws Afon Dyfi yn Ninas Mawddwy. Adeiladwyd gan Dr John Davies ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg.
Rheilffordd Llyn Tegid
Atyniadau
Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn cynnig taith yn ôl a blaen o 9 milltir heibio Llyn Tegid, trwy harddwch Parc Cenedlaethol Eyri.Mwynhewch yr olygfa oddiar y trên o’r tirwedd a’r mynyddoedd - Arenig Fawr, Aran Benllyn ac Aran Fawddwy.