Atyniadau
Caerau Gardens
Atyniadau
Wedi ei leoli dros 1000 troedfedd, mae gan Caerau Gardens y gerddi uchaf, sy'n agored i'r cyhoedd, yng Ngogledd Cymru. Sefydlwyd y gerddi yn 1994, ac mae yna ychwanegiadau yn cael eu gwneud trwy'r adeg.
Castell y Bere
Atyniadau
Olion arbennig castell brodorol Cymreig, wedi ei ddechrau mae'n debyg gan y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth ('Llywelyn Fawr') tua 1221.
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.
RSPB Conwy
Atyniadau
Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn gorstir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o ddeunydd a gloddwyd wrth adeiladu twnnel ffordd yr A55. Mae bellach yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, ac yn lle gwych i gyflwyno teuluoedd i natur.