Atyniadau
Tŷ Canoloesol Penarth Fawr
Atyniadau
Camwch i mewn i’r em gudd hon er mwyn darganfod tŷ canoloesol a gafodd ei hadeiladu er mwyn gwneud argraff. O fewn y muriau cerrig trwchus dewch o hyd i doeau uchel a gwaith coed wedi’i naddu’n gain.
Cronfa Ddŵr a Chanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae ymweliad â Llyn Brenig yn golygu diwrnod allan i'w fwynhau ac yn llawn hwyl. Mae'r ganolfan ymwelwyr ar agor trwy gydol y flwyddyn, gydag oriau estynedig yn ystod y tymor pysgota.
Plas Tan y Bwlch
Atyniadau
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.
Traethau Borth-y-Gest
Atyniadau
Lleolir Traethau Borth-y-Gest ym mhentref bychan, prydferth Borth-y-Gest ger Porthmadog. Gallwch gael mynediad i'r traethau o faes parcio'r pentref drwy ddilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru tua'r gorllewin gan fynd heibio i dai teras.
Borth y Gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9TY